Celf Gwreiddiol Wynne Melville Jones
Mae modd i chi brynu a buddsoddi mewn darluniau gwreiddiol Wyn Mel.
Does dim cwestiwn o gwbwl ynghylch yr angerdd am yr hyn y mae yn ei ddarlunio ... a hynny mewn modd sy'n deilwng o'r gwir artist
These paintings will enrich your lives - the feast awaits you ..."

Oriel Wyn Mel
Mae Wynne Melville Jones (Wyn Mel) yn enw cyfarwydd yng Nghymru yn sgil ei waith arloesol ym myd cysylltiadau cyhoeddus dwyieithog a'i ymwneud hir dymor â mudiad yr Urdd. Yn gyn-fyfyriwr celf, mae bellach wedi dychwelyd at ei ddiddordeb pennaf — celfyddyd gain — ac yn gweithio o'i stiwdio gartref yn Llanfihangel Genau'r Glyn (Llandre), Ceredigion.
Sefydlodd y cwmni PR dwyieithog cyntaf yng Nghymru, StrataMatrix, yn 1979, a'i reoli'n llwyddiannus am 30 mlynedd. Mae'n Llywydd Anrhydeddus yr Urdd ac ef a greodd gymeriad annwyl Mistar Urdd, sydd wedi swyno plant Cymru ers dros 36 o flynyddoedd. Roedd hefyd yn un o sefydlwyr y cylchgrawn wythnosol Golwg, ac mae'n dal ei gysylltiad â'r cwmni.
Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Y Fi a Mistar Urdd a'r Cwmni Da, gan Y Lolfa yn 2010. Yn 2012 gwireddwyd un arall o'i gynlluniau pan agorwyd Llwybr Llên Llanfihangel Genau'r Glyn — llwybr a adeiladwyd mewn coedwig deuluol, yn ddathliad parhaol o draddodiad barddol y fro, ac sy'n agored i'r cyhoedd 365 diwrnod y flwyddyn.
Cynhaliwyd arddangosfeydd o'i waith yn Aberystwyth, Abergwaun, Aberaeron, Tregaron, Y Bala, Llandeilo, Caerdydd a Llundain.
Celf Gwreiddiol Wynne Melville Jones
Creadigol
Wedi ail gydio yn y brwsh, rhoddodd Wynne her iddo'i hun i baentio Cors Caron yn y pedwar tymor. Mae iconau Cymreig yn gyson yn dal ei lygaid, a daw ei ysbrydoliaeth o'i fagwraeth yn Nhregaron ac o dreftadaeth a diwylliant cymunedau'r gorllewin. Does dim dwywaith bod harddwch Sir Benfro yn ei swyno'n fawr.
Mae nifer o'i luniau wedi creu diddordeb ymhell y tu hwnt i Gymru. Mae ei ddarlun o Soar-y-Mynydd — y capel mwyaf anghysbell yng Nghymru — yn eiddo i gyn-Arlywydd UDA, Jimmy Carter. Mae ei lun o Ynys Llanddwyn ym meddiant casglwr celf o'r Almaen. Ac mae ei ddarlun o Graig Elvis, Eisteddfa Gurig, wedi creu cymaint o ddiddordeb yn America nes bod print cyfyngedig bellach yn archif Elvis Presley yn Graceland, Tennessee.
Ei nod yw ceisio cyfleu cymeriad a naws unigryw Cymru drwy gyfrwng paent ar gynfas.




