Am yr Artist

ARDDANGOSFA: SWISS ART EXPO,  ZURICH, Medi 2026

Mae WYNNE MELVILLE JONES (WYN MEL) yn enw cyfarwydd yn sgil ei waith arloesol ym myd cysylltiadau cyhoeddus a'i ymwneud a mudiad yr Urdd.

Yn gyn-fyfyriwr celf bellach wedi wedi dychwelyd at ei ddiddordeb pennaf - celfyddyd gain.

Mae'n gweithio o'i gartref yn Llanfihangel Genau'r Glyn (Llandre) Ceredigion ac yn weithgar yn y gymuned, yn Gymro brwd ac yn Gardi balch.

Sefydlodd y cwmni PR dwyieithog cyntaf yng Nghymru StrataMatrix yn 1979 a bu'n ei reoli yn llwyddiannus am 30 mlynedd.

Mae'n Llywydd Anrhydeddus yr Urdd ac ef yw tad Mistar Urdd - y cymeriad trilliw sy'n dal yn fferfryn gan blant Cymru wedi 36 o flynyddoedd. Roedd e hefyd yn un o sefydlwyr y cylchgrawn wythnosol Golwg ac mae'n dal ei gysylltiad gyda Chwmni Golwg Cyf.

Wedi ail gydio yn y brwsh paent rhoddodd her i'w hun i baentio Cors Caron yn y pedwar tymor. Mae iconau Cymreig yn gyson yn dal ei lygaid a daw ei ysbrydoliaeth o'i fagwraeth yn Nhregaron ac o dreftadaeth a diwylliant y cymunedau yn y gorllewin. Does dim dwywaith bod harddwch Sir Benfro yn ei swyno'n fawr.
Mae nifer o'i luniau wedi creu diddordeb ymhell y tu hwnt I Gymru. Mae ei ddarlun o Soar-y-Mynydd yn eiddo i gyn-Arlywydd UDA Jimmy Carter ac mae ei lun o Ynys Llanddwyn ym meddiant casglwr celf o'r Almaen. Mae ei ddarlun o Graig Elvis, Eisteddfa Gurig wedi creu cryn ddiddordeb yn America ac mae'r llun bellach yn Graceland Tennessee, cyn gartref Elvis sy nawr yn amgueddfa ac yn archif.

Cyhoeddwyd ei hunangofiant Y Fi a Mistar Urdd a'r Cwmni Da gan Y Lolfa yn 2010 ac yn 2012 gwireddwyd un o'i gynlluniau arloesol pan agorwyd Llwybr Llên Llanfihangel Genau'r Glyn. Mae'r llwybr a adeiladwyd mewn coedwig o eiddo'r teulu yn ddathliad parhaol o draddodiad barddol y fro ac mae ar agor i'r cyhoedd 365 y flwyddyn.

Mae arddangosfeydd o'i waith wedi eu cynnal yn Aberystwyth, Abergwaun, Aberaeron,Tregaron, Y Bala, Llandeilo, Caerdydd a Llundain. Ei nod yw ceisio cyfleu cymeriad a naws unigryw Cymru drwy gyfrwng paent ar ganfas.